Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Ionawr 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13188
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a 9 -12. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Atebwyd gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg
James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ddisgwyliadau ynghylch ei gyfarfodydd gydag undebau llafur yr athrawon yn ddiweddarach yr wythnos hon o ran osgoi cau ysgolion?
Pwynt o Drefn
Am 15.07, cododd Heledd Fychan Bwynt o Drefn i wneud cais bod y canllawiau ar gyfer cyfarfodydd rhithiol a hybrid y pwyllgorau yn cael eu hadolygu, yn sgil penderfyniad Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn rhithiol yn hytrach na dod i’r cyfarfod y bore hwnnw, er ei bod yn bresennol ar yr Ystâd a bod y Pwyllgor wedi gofyn iddi fod yn bresennol yn yr ystafell.
Wrth ymateb i’r materion a godwyd, esboniodd y Dirprwy Weinidog ei bod wedi penderfynu cymryd rhan yn rhithiol yn y sesiwn, oherwydd bod y swyddogion a oedd yn ei chefnogi hefyd yn cymryd rhan o bell.
Dywedodd y Llywydd y byddai’n holi Fforwm y Cadeiryddion i ystyried y canllawiau presennol ar sail profiadau’r holl bwyllgorau o ran presenoldeb Gweinidogion ac Aelodau yn yr ystafell gyfarfod neu’n rhithiol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.14
Gwnaeth Sioned Williams ddatganiad am - 200 mlynedd ers genedigaeth Alfred Russel Wallace, un o naturiaethwyr gorau Prydain, a damcaniaethwr esblygiadol cynnar. (8 Ionawr).
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.16
NDM8180 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, ‘Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru', a osodwyd ar 6 Hydref 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Ynni adnewyddadwy ar y môr
Dechreuodd yr eitem am 16.24
NDM8183 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu y bydd defnyddio dyfroedd arfordirol Cymru yn helpu i gyflawni chwyldro mewn ynni gwyrdd ac adnewyddadwy.
2. Yn nodi bod modd creu tua 10,000 o swyddi gwyrdd a buddion ehangach.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy ar y môr yng Nghymru, gan sicrhau y darperir gweithlu â digon o sgiliau a chapasiti gweithgynhyrchu gwell.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl Plaid Cymru - Rheoli'r pwysau ar y GIG
Dechreuodd yr eitem am 17.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM8181 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi camreoli'r pwysau sy'n wynebu'r GIG.
2. Yn datgan argyfwng iechyd yng Nghymru.
Cefnogwyr
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig.
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.09
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.10
NDM8182 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Datblygu sector ynni hydrogen yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2023